Malachi 4

1Ydy, mae'r diwrnod yn dod;
mae fel ffwrnais yn llosgi.
Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg
yn cael eu llosgi fel bonion gwellt,
ar y diwrnod sy'n dod,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.
“Byddan nhw'n llosgi'n ulw
nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.
2Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio
arnoch chi sy'n fy mharchu i,
a iachâd yn ei belydrau.
Byddwch yn mynd allan,
yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd.
3Byddwch yn sathru'r rhai drwg,
a byddan nhw fel lludw dan eich traed
ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.

Rhybudd ac Addewid

4Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas;
y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai
4:4 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai

ar gyfer Israel gyfan.
5Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi
cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr Arglwydd ddod.
6Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i,
rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr.
Copyright information for CYM